Gallai’r Alban gynnal refferendwm ar annibyniaeth ymhen blwyddyn, yn ôl Prif Weinidog y wlad, Alex Salmond.
Mae hyn er gwaetha’r ffaith fod y gwrthbleidiau yn Senedd yr Alban wedi dweud yn gyson y bydden nhw’n pleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth a fyddai’n angenrheidiol ar gyfer pleidlais o’r fath.
Yfory, dydd nawddsant yr Alban, Sant Andreas, bydd llywodraeth leiafrifol yr SNP yn cyhoeddi ei phapur gwyn ar ddyfodol cyfansoddiadol y wlad.
“Ein nod a’n bwriad fyddai cynnal y refferendwm yr adeg yma’r flwyddyn nesaf, os gallwn basio’r Mesur,” meddai Alex Salmond. “Ac fe fyddwn ni’n cael y Mesur wedi ei basio os bydd pobl yn cymryd rhan yn y dadleuon.”
20% o blaid annibyniaeth
Mewn arolwg barn sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, dywed 20% eu bod o blaid annibyniaeth i’r Alban, 46% o blaid rhagor o bwerau i’r Alban o fewn y Deyrnas Unedig, a 32% o blaid cadw pethau fel y maen nhw.
Roedd 50% yn cytuno y dylai refferendwm gael ei gynnal “ymhen ychydig flynyddoedd, ond nid yw’n flaenoriaeth ar y funud”, o gymharu â 25% a oedd o blaid cael refferendwm “cyn gynted ag sy’n bosibl”. Roedd 20% yn erbyn cynnal refferendwm o gwbl.
Mae Llafur yn herio’r SNP i ohirio’u cynlluniau am refferendwm a chanolbwyntio yn lle hynny ar ymladd y dirwasgiad.
“Mae gan yr SNP obsesiwn od, sy’n ymylu ar fod yn afiach gydag annibyniaeth,” meddai Ysgrifennydd yr Alban, Jim Murphy. “Yn yr adegau anodd yma fe ddylen nhw ymddwyn fel gwladgarwyr, ac nid fel cenedlaetholwyr yn unig, a rhoi’r Alban o flaen eu plaid.”
Dewisiadau
Bydd y papur gwyn a fydd yn cael ei lansio gan Alex Salmond yn nodi pedwar dewis cyfansoddiadol i’r Alban:
1 Cadw pethau fel y maen nhw
2. Rhagor o bwerau i senedd yr Alban yn unol ag argymhellion Comisiwn Calman
3. Datganoli pellach a fyddai’n rhoi ymreolaeth trethiannol llawn i’r Alban
4. Annibyniaeth.
Fodd bynnag, ni fydd y papur gwyn yfory yn dweud beth fyddai’r cwestiwn mewn refferendwm – dywedodd Alex Salmond y byddai hyn yn cael ei ddatgelu yn y Mesur a fydd yn cael ei gyhoeddi’n gynnar yn y flwyddyn newydd.
“Credaf ei bod hi’n iawn fod Llywodraeth yr Alban yn nodi’r dewisiadau sy’n wynebu’r genedl ar ddydd cenedlaethol yr Alban, Dydd Sant Andreas,” meddai.