Mae Abertawe wedi cael gwers bêl droed gan Newcastle Utd, wrth i’r Elyrch golli 3-0 yn St James’s Park.
Bu perfformiad siomedig tîm Paulo Sousa yn yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i Newcaslte.
Fe sgoriodd y tîm cartref eu tair gôl yn hanner awr gyntaf y gêm. Fe wnaeth yr ymosodwr, Marlon Harewood sgorio’r gôl gyntaf wedi wyth munud gyda Peter Lovenkrands yn ychwanegu ail wedi ugain munud
Fe wnaeth Harewood cael ei ail gôl o’r prynhawn wyth munud yn ddiweddarach ac fe ddaeth tair gôl Newcastle o beniadau.
Ail hanner
Roedd Abertawe yn llawer cryfach yn yr ail hanner, gyda’r Elyrch yn gweld llawer mwy o’r bêl.
Fe ddaeth asgellwr Cymru, David Cotterill ymlaen o’r fainc i chwarae ei gêm gyntaf i Abertawe ym munudau agoriadol yr ail hanner.
Ond roedd y dasg o achub y gêm yn yr ail hanner yn ormod ar ôl y 45 munud agoriadol trychinebus, ac fe fydd yn daith hir yn ôl i dde Cymru i Abertawe a’u 3,000 o gefnogwyr oedd yno i wylio’r golled.