Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i fam a’i merch deirblwydd oed farw mewn tân yn ei chartref yn Llundain.
Cynheuodd y tân mewn fflat ail lawr yn Earlsfield yn ne-orllewin Llundain neithiwr, a chadarnhaodd yr heddlu eu bod nhw’n ystyried y posibilrwydd iddo gael ei danio’n fwriadol. Digwyddodd tân tebyg yn yr un fflat yr adeg yma y llynedd hefyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Brigâd Dân Llundain iddyn nhw gael hyd i gyrff Tara-Jayne Mallon a’i merch Chloe yn ystafell wely’r fflat.
Cynhaliwyd archwiliad post mortem ar eu cyrff y prynhawn yma, ac mae arbenigwyr fforensig wedi bod wrthi drwy’r dydd yn ymchwilio y tu mewn i’r adeilad.
Llun: Heddlu y tu allan i’r fflat yn Earlsfield, de-orllewin Llundain, heddiw (Lewis Whyld/PA Wire)