Bom a gafodd ei osod ar y rheilffordd a oedd wedi achosi i drên cyflym fynd oddi ar y cledrau rhwng Moscow a St Petersburg neithiwr gan ladd o leiaf 39 o bobl.
Mae swyddogion gwasanaeth diogelwch ffederal Rwsia wedi cael hyd i weddillion bom a oedd yn cyfateb i 15 pwys o’r deunydd ffrwydrol TNT ger y safle.
“Ymosodiad terfysgol oedd hwn yn wir,” meddai Vladimir Markin ar ran gwasanaeth erlyn y wlad. Os felly, dyma’r ymosodiad terfysgol gwaethaf y tu allan i ranbarth cythryblus gogledd Caucasus yn y wlad ers blynyddoedd.
Ar ôl i’r trên fynd dros y ddyfais ffrwydrol ar gyflymder o tua 130 milltir yr awr, aeth y tri cherbyd olaf o’r 14 ar y Nevsky Express oddi ar y cledrau.
Roedd dros 600 o deithwyr ar y trên ar y pryd.
Llun: Un o gerbydau’r trên a aeth oddi ar y cledrau tua 250 o filltiroedd i’r gogledd-orllewin o Moscow neithiwr (AP Photo/Ivan Sekretarev)