Mewn cynhadledd ryngwladol yn Llundain ar Ionawr 28 bydd pwysau’n cael eu rhoi ar arlywydd Afghanistan i gryfhau byddin, heddlu a llywodraeth leol y wlad, er mwyn paratoi’r ffordd i filwyr tramor fynd adref.

Gobaith y Prif Weinidog Gordon Brown yw y bydd y gynhadledd yn cytuno ar fframwaith gwleidyddol ar gyfer trosglwyddo cyfrifoldebau milwrol i luoedd arfog y wlad.

Bydd gofyn i arlywydd Afghanistan, Hamid Karzai, ddangos y bydd yn gallu hyfforddi 50,000 o filwyr y flwyddyn nesaf, cryfhau gallu heddlu’r wlad, a phenodi llywodraethwyr rhanbarthol a lleol a fydd yn rhydd o lygredd ac yn gallu darparu gwasanaethau i bobl Afghanistan.

Wrth gyhoeddi dyddiad y gynhadledd gydag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon yn uwch-gynhadledd y Gymanwlad yn Trinidad a Tobago heddiw, dywedodd Gordon Brown y bydd targedau o’r fath yn arwain y ffordd at drosglwyddo grym fesul tipyn i lywodraeth Afghanistan. Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd hyn wedi digwydd mewn pum talaith yn y wlad yn ystod y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal â Hamid Karzai a Ban Ki-moon, mae disgwyl y bydd cynrychiolwyr o’r 43 o wledydd sydd â milwyr yn Afghanistan yn cymryd rhan yn y gynhadledd yn Llundain.

Dywedodd Gordon Brown hefyd ei fod yn obeithiol y bydd rhai o wledydd eraill Nato yn cynnig 5,000 o filwyr ychwanegol i Afghanistan erbyn y gynhadledd, er nad oedd yn fodlon awgrymu pa wledydd oedd ganddo dan sylw.

Mae hefyd yn gwrthod unrhyw amserlen bendant ar gyfer tynnu milwyr Prydain allan o’r wlad.

Llun: Y Prif Weinidog Gordon Brown ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon – cyhoeddi dyddiad cynhadledd yn Llundain ar 28 Ionawr. (Lefteris Pitarakis/PA Wire)