Mae 106 o bobl wedi marw mewn llifogydd yng ngorllewin Saudi Arabia a achoswyd gan stormydd o law anghyffredin o drwm ddydd Mercher.

Digwyddodd y marwolaethau wrth i gartrefi a phontydd gael eu dinistrio gan y llifogydd yn ninas Jiddah ar y Môr Coch, wrth iddi gael ei tharo gan y glaw trymaf a welwyd yn y wlad ers blynyddoedd.

Mae ysbytai lleol yn paratoi ar gyfer achosion tebygol o afiechydon fel twymyn dengue yn sgil i’r llifogydd.