Mae o leia’ 30 o bobl wedi boddi a degau ar goll ar ôl i long fferi droi drosodd a suddo mewn porthladd yn ne Bangladesh.

Roedd y llong MV Coco, a oedd yn hwylio o brifddinas y wlad, Dhaka, i dref Bhola, yn orlawn o bobl a oedd yn mynd adref ar gyfer yr ŵyl Islamaidd, Eid-ul-Azha..

Roedd llawer o’r teithwyr eisoes wedi glanio’n ddiogel cyn y ddamwain, ond cafwyd hyd i 30 o gyrff o’r rhan o’r llong a oedd wedi suddo, ac ofnir bod rhagor wedi eu cau i mewn ynddi.

Nid oes sicrwydd faint o deithwyr oedd arni gan nad yw’r awdurdodau’r wlad yn cadw rhestr o deithwyr ar longau.