Cafodd pedwar aelod o griw awyren cargo eu lladd mewn damwain ym maes awyr Shanghai yn China ddoe.
Yn ôl adroddiadau, disgynnodd yr awyren yn fuan ar ôl iddi godi wrth i’w chynffon daro’r llain esgyn yn y maes awyr.
Achosodd y gwrthdrawiad i’r awyren dorri mewn dau neu dri lle a bu’n rhaid cau dau lain yn y maes awyr wrth i gannoedd o ymladdwyr tân geisio diffodd y fflamau.
Roedd yr awyren, a oedd wedi ei chofrestru yn Zimbabwe, ar ei ffordd i Bishtek, prifddinas Kyrgyzstan.
Llun: Gweddillion yr awyren ym maes awyr rhyngwladol Pudong, Shanghai (AP Photo)