Roedd plaid asgell dde UKIP wedi cynnig camu o’r neilltu petai’r Ceidwadwyr yn cadw at addewid i gynnal refferendwm ar Gytundeb Lisbon.
Dyna honiad arweinydd newydd y blaid wrth bapur newydd y Times er bod peth dryswch ynglŷn ag union hyd a lled y cynnig.
Yn ôl yr Arglwydd Pearson o Rannoch, roedd wedi gwneud y cynnig i arweinydd y Ceidwadwyr yn Nhŷ’r Arglwyddi, gan gynnig diddymu’r blaid yn gyfnewid am yr addewid.
Roedd yn gweithredu ar ran yr arweinydd ar y pryd, Nigel Farage, meddai, er bod llefarydd ar ran UKIP yn dweud mai’r cynnig oedd i beidio â sefyll yn yr Etholiad Cyffredinol nesa’.
“Fe wnes i’r cynnig ond ches i ddim ateb,” meddai’r Arglwydd Pearson, a gafodd ei ddewis yn arweinydd newydd UKIP gan yr aelodau ddoe. Fe gafodd 48% o’r bleidlais.
Digon swta oedd ymateb y Ceidwadwyr heddiw. “Dydyn ni ddim yn gwneud polisi trwy gytundebau dirgel gyda phleidiau eraill,” meddai llefarydd y blaid ar Ewrop, Mark Francois.
Trafferth mewn stiwdio
Fe aeth yr Arglwydd Pearson i drafferth o fewn oriau i ddod yn arweinydd – fe gyfaddefodd wrth Channel 4 ei fod wedi gwneud camgymeriad trwy awgrymu bod Moslemiaid yn epilio ddeg gwaith yn gynt na phawb arall.
“Ges i hynna’n anghywir – tydw i ddim llawer o wleidydd, mae arna’ i ofn,” meddai, cyn dadlau efallai mai dyna oedd yr apêl i bobol oedd wedi cael llond bol ar wleidyddion proffesiynol.
Llun: Arglwydd Pearson (Trwydded CCA2.0)