Fe allai golffiwr gorau’r byd wynebu cyhuddiadau ar ôl damwain car yn oriau mân y bore ger ei gartref yn Florida.
Mae dirgelwch ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd i Tiger Woods ar ôl iddo daro heirant tân a choed bron yn union y tu allan i’w dŷ.
Dyw e ddim wedi ei anafu’n ddifrifol – dim ond mân friwiau i’w wyneb – ac fe gafodd ddychwelyd adref ar ôl triniaeth mewn ysbyty.
Yn ôl yr heddlu lleol, doedd dim amheuaeth bod y golffiwr wedi yfed a gyrru ond maen nhw’n parhau i ymchwilio ac yn ystyried cyhuddiadau.
Roedd y golffiwr yn gorwedd yn lled-anymwybodol ar y stryd pan gyrhaeddodd y tîmau achub ac roedd ei wraig gerllaw. Yn ôl rhai adroddiadau, roedd hi wedi gorfod torri’r ffenest ôl gyda chlwb golff er mwyn rhyddhau Tiger Woods.
Mae’r stori wedi creu cynnwrf mawr yn y papurau newydd – yn rhannol am fod y golffiwr fel rheol yn cadw’i fywyd preifat allan o’r penawdau.
Llun: Tiger Woods (APPhoto)