Mae ymchwiliad ar droed yn Rwsia ar ôl damwain trên sydd wedi lladd o leia’ 39 o bobol.
Mae’r awdurdodau yno’n awgrymu bod peth tystiolaeth o ymosodiad gan derfysgwyr.
Fe aeth cerbydau cefn trên moethus y Nevsky Express oddi ar y cledrau ar ei daith rhwng Moscow a St Petersburg tua hanner awr wedi naw neithiwr. Roedd 633 o deithwyr ac 20 o weithwyr ar y trên.
Un rheswm tros yr amheuon yw adroddiadau am dwll wrth ochr y trac a allai fod yn olion ffrwydrad.
Fe fydd yr holi’n siŵr o droi at fudiadau o wledydd y Caucasus, fel Chechnya, sydd wedi achosi ffrwydradau ar drenau cyn hyn.
Llun: Trin un o’r teithwyr wedi’r ddamwain (APPhoto)