Fe fu’n rhaid achub pedwar canwiwr o afon Machno ym Mhenmachno ger Betws y Coed.
Fe gafodd timau achub eu galw i’r ardal tua phump o’r gloch neithiwr – roedden nhw’n cynnwys tri thîm o ddiffoddwyr tân, dau dîm achub dŵr o Fangor a Betws y Coed a thîm achub gyda rhaffau o Fae Colwyn.
Fe gafodd dau o’r canw-wyr eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor mewn hofrennydd tra cafodd y ddau arall driniaeth gan y gwasanaeth ambiwlans.
Dyw hi ddim yn glir eto pam fod y pedwar wedi mynd i drafferthion ond roedd y dŵr yn yr afon yn uchel ar ôl y glaw diweddar.
Llun: Afon Machno (Nigel Callaghan – Trwydded CCA2.5)