Mae Stephen Jones yn disgwyl her anferth pan fydd Cymru’n wynebu Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm yfory ond mae’n falch bod pobol yn disgwyl buddugoliaeth.
“Os oes rhywun yn dweud mai ni yw’r ffefrynnau, wel mae’n beth da o’n safbwynt ni,” meddai’r maswr. “Mae’n gêm enfawr i ni, ac mae’n rhaid i ni ddelio gyda’r pwysau a’r her.”
Ond mae hefyd yn gwybod na fydd yn gêm hawdd i Gymru, er bod Awstralia wedi cael taith siomedig, gan golli yn erbyn yr Alban a chael gêm gyfartal yn Iwerddon.
“Mae Awstralia yn greadigol iawn, ac yn dda iawn yn dechnegol,” meddai. “Fe fydd y Wallabies yn creu problemau, ac yn siŵr o herio ein hamddiffyn.”
Adfer hen bartneriaeth
Fe fydd Stephen Jones mewn partneriaeth eto gyda chyn fewnwr y Scarlets Dwayne Peel.
“Rwy’n edrych ‘mlaen i chwarae gyda Dwayne unwaith eto,” meddai Stephen Jones. M “Mae Dwayne o hyd yn dweud wrtha’i pan nad ydw i’n gwneud rhywbeth yn iawn. R’yn ni’n ymddiried yn ein gilydd ac mae gyda ni ddealltwriaeth dda.”
Ffeithiau Cymru v Awstralia
• Mae Cymru ac Awstralia wedi cwrdd 28 gwaith – 10 buddugoliaeth i Gymru, 17 i Awstralia gydag 1 gêm gyfartal.
• Sgôr gorau Cymru yn erbyn y Wallabies oedd 28-3 yng Nghaerdydd yn 1975. Cafodd Awstralia ei buddugoliaeth gorau o 63-6 yn Brisbane yn 1991.
• Yn ystod y pedair gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm yn Stadiwm y Mileniwm, mae Cymru wedi ennill dwy, colli un a chael un gêm gyfartal.
• Mae angen dau gais ar Shane Williams i gyrraedd 50 tros ei wlad.
• Mae angen un cais ar Williams yn y gêm yfory i osod record newydd am geisiau unigolyn yn erbyn Awstralia – sef pump.
• Cyn faswr Awstralia, Michael Lynagh sydd wedi sgorio’r mwyaf o bwyntiau mewn gêm rhwng y ddau dîm – 23 pwynt yn 1991.
• Mae Dwayne Peel a Gethin Jenkins yn ennill eu 72ain cap yn erbyn Awstralia. Fe fydd Stephen Jones yn ennill ei 83ydd.
• Fe fydd Jonathan Thomas yn ennill ei 50fed cap os daw oddi ar y fainc.
• Mae bron bum cais wedi cael eu sgorio ar gyfartaledd ym mhob un o’r chwe gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm.