Efallai y bydd yna gadno ymysg y Piwmas pan fydd Cymru yn herio’r Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm dydd Sadwrn.
Mae staff y stadiwm wedi sylweddoli bod llwynog yn galw heibio dros yr wythnosau diwetha’, ac maen nhw’n gobeithio bod presenoldeb yr anifail yn arwydd da i Gymru.
“Mae pobol yn dweud mai llysenw ein canolwr ifanc, Jonathan Davies, yw’r ‘Cadno’,” meddai’r rheolwr, Gerry Toms.
“Mae cadnoid yn anifeiliaid sionc, felly gobeithio bod hyn yn arwydd da cyn i ni wynebu cryfder a phŵer y Piwmas.”
Synnu
Roedd staff wedi gweld y cadno sawl dro ar gamerâu cylch cyfyng. Ond nos Fawrth ddiwetha’, fe benderfynodd cefnogwr diweddaraf Cymru archwilio safon y glaswellt newydd oedd yn cael ei osod ar gyfer y gêm.
“Ges i sioc o weld y cadno , ond roedd yn fwy o syndod i weld pa mor agos yr o’n i’n gallu mynd ato i dynnu ei lun”, meddai Chris Medley, a oedd yn gosod y borfa newydd.