Mae Heddlu Afghanistan wedi cadarnhau fod 13 wedi’u lladd ar ôl ffrwydrad gan hunanfomiwr yng ngorllewin Afghanistan.
Fe ddywedodd pennaeth yr Heddlu yn nhalaith Farah bod yr hunanfomiwr ar feic modur mewn sgwâr poblog ger gorsaf fysiau pan daniodd y ffrwydron.
Cafodd 30 eu hanafu – gan gynnwys nifer o blant – ac roedd un swyddog heddlu ymhlith y rhai a laddwyd.
Fe ddywedodd Llywodraethwr y dalaith, Rohul Amin, fod y ffrwydrad wedi digwydd tua 50 metr o’i ganolfan ef.
Ddoe, roedd yr Arlywydd Hamid Karzai yn cael ei urddo’n ôl i’r swydd ac yn addo ymladd llygredd gwleidyddol a chryfhau lluoedd diogelwch y wlad.