Syndod oedd yr ymateb amlyca’ wrth i’r Undeb Ewropeaidd ddewis ei Lywydd parhaol cynta’ ac Uchel-gynrychiolydd tramor.
Y syndod cynta’ oedd bod y penderfyniad wedi ei wneud yn unfrydol o fewn tua dwyawr dros ginio rhwng arweinwyr y 27 gwlad ym Mrwsel.
Yr ail syndod oedd y dewis – Prif Weinidog Gwlad Belg yn Llywydd ac arglwyddes Lafur gymharol ddinod o wledydd Prydain yn Uchel-gynrychiolydd.
Mae’r ddwy swydd wedi eu creu am y tro cynta’ yn sgil derbyn Cytundeb Lisbon a’r bwriad yw cryfhau undod a chael mwy o argraff ar bolisi tramor.
Bargeinio
Mae’n ymddangos bod bargeinio mawr wedi bod o flaen llaw, gyda Phrif Weinidog Prydain, Gordon Brown, yn rhoi’r gorau i wthio ei ragflaenydd, Tony Blair, ar gyfer y brif swydd.
Mae’n ymddangos mai ffordd oedd hynny o sicrhau mai’r Farwnes Cathy Ashton oedd yn cael y swydd dramor.
Mae’r ddau benodiad yn dangos mai bwriad arweinwyr y gwledydd yw cael swyddogion sy’n gwneud eu gwaith heb dynnu gormod o sylw.
Llywydd eisiau undod
Herman van Rompuy yw’r Llywydd newydd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd ac mae wedi gwneud yn glir mai tynnu pobol at ei gilydd fydd ei nod.
Dyna y mae wedi ei wneud yng Ngwlad Belg ers cael ei wneud yn Brif Weinidog lai na blwyddyn yn ôl pan oedd y llywodraeth yno mewn anhrefn.
Mae wedi dweud eisoes ei fod eisiau parchu hanes a thraddodiadau’r holl wahanol wledydd ac nad yw ei farn bersonol ef – er enghraifft yn erbyn derbyn Twrci i’r Undeb – yn cyfri’.
Barwnes pwy?
Ddeng mlynedd yn ôl, roedd y Farwnes Ashton yn Gadeirydd Awdurdod Iechyd Hertfordshire, cyn dod yn is-weinidog llywodraeth yn 2001.
O dan arweinyddiaeth Gordon Brown y datblygodd ei gyrfa – fe ddaeth yn Arweinydd yr Arglwyddi yn 2007 ac yna yn Gomisiynydd Ewropeaidd ar ôl Peter Mandelson.
Fe ddywedodd ei bod yn falch o fod yn Gomisiynydd benywaidd cynta’ gwledydd Prydain, yn Gomisiynydd Masnach benywaidd cynta’r Undeb ac, yn awr, yn Uchel-gynrychiolydd benywaidd cynta’.
Fe fydd yn wynebu beirniadaeth am nad yw hi erioed wedi ei hethol i unrhyw swydd gyhoeddus – tan hon.
Llun: Herman van Rompuy