Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi amddiffyn penderfyniad i greu llinell gymorth newydd ar gyfer plant yn hytrach na rhoi rhagor o arian i Childline.
Nod y llinell – a fydd yn agored i oedolion yn ogystal â phlant – yw rhoi gwybodaeth dros y ffôn a thrwy neges destun, e-bost a negeseua sydyn.
Bydd yna wybodaeth ar gael ar faterion sy’n cynnwys iechyd, addysg a phroblemau personol neu deuluol.
Yn ôl y Ceidwadwyr, fe ddylai’r arian – bron hanner miliwn y flwyddyn – gael ei roi i Childline yng Nghymru ond mae’r Llywodraeth yn mynnu bod y gwasanaeth newydd yn wahanol.
Yn annhebyg i ChildLine, sy’n wasanaeth cyfrinachol, fe fydd hawl gan staff y llinell gymorth gysylltu gyda’r awdurdodau priodol pe baen nhw’n pryderu a diogelwch unigolion.
Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai’r llinell gymorth yn gallu helpu plant a phobl ifanc i “atal, dechrau neu newid” sefyllfa.
‘Sicrhau cymorth; – Rhodri Morgan
“Mae fy llywodraeth eisoes wedi dweud ein bod yn benderfynol i sicrhau hawliau i blant a phobol ifanc”, meddai Rhodri Morgan, Prif Weinidog Llywodraeth y Cynulliad.
“R’yn ni am sicrhau bod cymorth ar gael i blant a phobol ifanc gan bobol fydd yn gall cynnig cefnogaeth iddynt”
Fe fydd cynllun prawf yn cael ei lansio yn y flwyddyn newydd, gyda’r gwasanaeth llawn yn dechrau erbyn mis Medi’r flwyddyn nesa’ ar gost o £459,850.
Wrth groesawu’r gwasanaeth, roedd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Eleanor Burnham, yn gobeithio nad oedd yn ffordd o guddio “methiant” y Llywodraeth i amddiffyn a gwella cyflwr plant.
Llun (Gwifren PA)