Fe fu’n rhaid i gadeirydd pwyllgor safonau Tŷ’r Cyffredin sefyll o’r neilltu ar ôl honiadau am ei lwfansau.
Dim ond fis yn ôl y cafodd David Curry ei ddewis yn Gadeirydd Pwyllgor Safonau a Breintiau’r Senedd ac ef yw targed diweddara’ papur y Daily Telegraph.
Maen nhw’n honni ei fod wedi cam-hawlio tua £30,000 o lwfansau am ail gartre’ yn ei etholaeth yn Skipton a Ripon – er bod ei wraig wedi ei wahardd rhag aros yno ar ôl iddo gael perthynas gyda gwraig arall.
Mae David Curry yn mynnu wrth y papur ei fod wedi defnyddio’r bwthyn ar gyfer ei waith etholaeth ond fod gwaith cynnal a chadw a salwch ei dad wedi ei atal rhag gwneud hynny mor aml ag y byddai wedi dymuno.
Yn ôl y papur, roedd yn aros fel arfer mewn gwesty Travelodge sy’n costio tua £40 y noson.
Galw’r Comisiynydd
Bellach, mae David Curry ei hun wedi anfon y mater at y Comisiynydd Seneddol ond mae’n dweud ei fod yn gwbl fodlon ar yr hyn a wnaeth.
Mae eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol adeg yr Etholiad Cyffredinol nesa’.