Mae’r gwaith o geisio achub cannoedd o bobol ym mhentre’ Cockermouth yn Cumbria yn parhau ac mae adroddiadau fod plismon ar goll wedi i bont chwalu.

Fe gadarnhaodd Heddlu Cumbri bod y chwilio wedi dechrau amdano, ond does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.

Yn y cyfamser, mae o leia’ 200 o bobol yn sownd mewn tai a fflatiau ac yn gorfod cael eu tynnu allan trwy ffenestri tai. Yn ôl rhai adroddiadau, mae timau achub hyd yn oed yn gorfod torri i mewn trwy doeon tai.

Mae’r holl wasanaethau brys – gan gynnwys timau achub mynydd, cychod achub a hofrenyddion o ardaloedd eraill – yn cydweithio i geisio mynd â phobol i dir sych.

Yn ôl tystion lleol, mae’r dŵr yn llifo trwy’r pentre’ fel afon wyllt gan fod cyn ddyfned â phump a chwe throedfedd mewn llefydd.

Cael ei tharo waetha’

Y sir yn Ardal y Llynnoedd sydd wedi cael ei tharo waetha’ gan law mawr a stormydd y ddeuddydd diwetha’, gydag ysgolion a ffyrdd ar gau a phobol hefyd yn gorfod cael eu hachub mewn trefi fel Keswick a Kendal.

Yn ôl y ffigurau swyddogol, roedd 6.8 modfedd o law wedi syrthio ym mhentref Seathwaite ddoe ac mae’r proffwydi tywydd yn addo rhagor o law yn ystod yr oriau nesa’.

Y ddwy ardal arall sydd wedi eu heffeithio’n ddrwg yw gogledd Cymru a’r Alban.

Roedd y gwyntoedd hefyd yn gry’, gan godi’n gyson tros 60 milltir yr awr a tharo cymaint â 90 mewn hyrddiau.

Llun: Achub pobol yn Cockermouth (Gwifren PA)