Mae marchogion wedi croesi hen bont gerrig yng Nghoedwig Crychan ger Llanymddyfri yn sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf ers hanner can mlynedd.

Llwyddodd y marchogion, sy’n aelodau o Gymdeithas Coedwig Crychan, i groesi’r bont gerrig sy’n deillio’n wreiddiol o’r Canol Oesoedd. Roedd hi wedi dadfeilio a chwalu nes i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru fynd ati i’w hatgyweirio.

“Pont Cefn-blewog yw’r unig bont gerrig yng Nghoedwig Crychan ac mae’r gwaith o’i hadfer wedi bod yn werth chweil,” meddai Brian Hanwell, Rheolwr Ardal Leol Comisiwn Coedwigaeth Cymru.

Dywedodd Karen Collier, Cadeirydd Cymdeithas Coedwig Crychan fod y “bont hanesyddol hon yn nodwedd ddeniadol iawn o fewn y goedwig.”