Fe fydd arbrawf gwerth £5 biliwn i ail greu amgylchiadau dechrau’r bydysawd yn dechrau eto dros y penwythnos, ar ôl cael ei dorri gan aderyn gyda darn o fara.

Dywedodd arweinydd y cynllun, y Dr Lyn Evans, Cymro o Aberdâr sydd wedi bod yn gweithio ar yr arbrawf ers 15 mlynedd, y dylai popeth fod yn gweithio’n iawn erbyn y Nadolig.

Mae’r Large Hadron Collider yn gylch 27km (16.8 milltir) o hyd, o dan ddaear ar y ffin rhwng Ffrainc a’r Swistir ger Geneva ac mae gwyddonwyr am ei ddefnyddio i ddeall cyfrinachau biliynau o flynyddoedd yn ôl.

Mae wedi ei gynllunio i yrru protonau o gwmpas y twnnel 11,000 mil o weithiau’r eiliad a’u taro yn erbyn ei gilydd er mwyn ceisio ail greu’r amgylchiadau’r cyfnod yn syth ar ôl y Glec Fawr.

Cafodd y peiriant ei sefydlu yn y Swistir yn 2008, ond fe ddaeth yr arbrawf i ben pan wnaeth gwahanol rannau orboethi ar ôl i ddarn o fara lanio ar y peiriant. Y gred yw mai aderyn a ollyngodd ddarn o baguette.

Teithio mewn amser

Mae honiadau fod yna beryg y gallai gweithredu’r peiriant ddinistrio’r byd, ond mae Lyn Evans wedi dweud ei fod yn hollol sicr fod y peiriant yn saff.

Yn ôl papur newydd y Telegraph, mae rhai gwyddonwyr wedi awgrymu y gallai cyfres o drafferthion technegol sydd wedi effeithio’r peiriant, fod wedi cael eu hachosi gan ronynnau sydd wedi teithio ‘nôl mewn amser i rwystro’r arbrawf.