Bydd y Ceidwadwyr yn herio cyllideb ddrafft Llywodraeth y Cynulliad mewn dadl yn y Senedd heddiw.

Maen nhw wedi cynnig nifer o welliannau i’r cynlluniau i wario £16 biliwn gan feirniadu’r Llywodraeth am beidio ag addasu digon i ddelio â’r dirwasgiad.

Rhybuddiodd y Torïaid y byddai awdurdodau lleol yn gorfod codi’r dreth gyngor os nad oedden nhw’n cael mwy o arian o’r canol.

Toriadau

Er bod y Ceidwadwyr yn Llundain yn galw am doriadau sylweddol mewn gwario cyhoeddus, mae eu llefarydd yng Nghaerdydd yn condemnio rhai o’r toriadau yng Nghymru.

“Mae Cymru’n wynebu her ariannol anferth oherwydd argyfwng dyled Rhodri Morgan a Gordon Brown,” meddai gweinidog cyllid yr wrthblaid, Nick Ramsay.

“Yn ystod dirwasgiad mae’n ymddangos yn wirion i fi bod adrannau fel yr Economi a Thrafnidiaeth yn wynebu toriadau anferth i’w cyllidebau.

“Dyw’r gyllideb ddrafft sydd wedi ei chynnig gan Lywodraeth y Cynulliad ddim yn adlewyrchu’r her y mae Cymru yn ei wynebu.”

Angen newid

Yr wythnos ddiwetha’, fe ddywedodd adroddiad gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad nad oedd gweinidogion wedi gwneud digon i newid eu cynlluniau gwario yn wyneb y dirwasgiad.

Dywedodd y Pwyllgor Cyllid nad oedd yna “unrhyw newid o bwys” wedi bod yn y modd yr oedd arian yn cael ei rannu rhwng adrannau’r Llywodraeth.

Roedd y pwyllgor hefyd yn codi amheuon am fwriad i arbed 5% ym maes addysg bellach ac uwch.

Tynnach eto

“Er bod cyllideb ddrafft 2010/11 yn dynn mae’r cyllidebau dilynol yn debygol o fod yn llawer tynnach,” rhybuddiodd yr adroddiad.

Wrth ddatgelu’r gyllideb fis diwethaf dywedodd y gweinidog cyllid Andrew Davies bod y “blynyddoedd o ddigonedd” wedi dod i ben.