Mae doctor o ysbyty mwyaf Cymru wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o ymddwyn yn anweddus o flaen merched ar eu ffordd i’r ysgol.

Mae Krishnasamy Sangameswaran wedi pledio’n ddieuog i bum achos o dramgwyddo gwedduster cyhoeddus ar ôl i nifer o ferched ifanc fynd at yr heddlu.

Fe glywodd y llys bod y meddyg 33 oed wedi cael ei weld yn ymddwyn yn anweddus yn ei gar wrth i ddisgyblion ysgol uwchradd fynd heibio.

Roedd un llygad dyst wedi nodi rhif y car ac, yn ôl yr erlyniad, roedd hwnnw’n cyfateb i rif Toyota arian y meddyg sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.


Parcio ger yr ysgol

Dywedodd yr erlynydd Hywel Hughes wrth Lys y Goron Caerdydd bod y troseddau honedig wedi digwydd pan oedd Krishnasamy Sangameswaran wedi parcio ger ysgol gyfun rhwng Hydref 2007 a Gorffennaf 2008.

Ar ôl cael ei arestio gan yr heddlu, dywedodd yr erlynydd bod y diffynnydd wedi cydnabod ei fod wedi bod yn yr ardal “ddwy neu dair gwaith” o’r blaen ond roedd hynny er mwyn asesu rhinweddau’r ysgol.