Mae yna rybudd o’r Alban i Gaerdydd a Llywodraeth y Cynulliad wrth iddyn nhw ystyried gwadd Gêmau’r Gymanwlad i dde Cymru yn 2020.
Mae costau’r Gêmau yn Glasgow yn 2014 newydd godi o £373 miliwn i £454 miliwn ac mae Llywodraeth yr Alban, Cyngor y Ddinas a Phwyllgor y Gêmau wedi gorfod cyfrannu £81 miliwn yn fwy na’r disgwyl.
Fe fydd y Llywodraeth yn gorfod talu £59 miliwn yn rhagor, a’r cyngor £9 miliwn, ond mae’r trefnwyr yn dweud bod y gwario’n hanfodol i gynnal y Gêmau a’u bod yn ceisio sicrhau na fydd angen cynyddu’r gyllideb eto.
Mae Cyngor Dinas Caerdydd a Llywodraeth y Cynulliad yn sôn am drefn debyg wrth rannu costau’r Gêmau petaen nhw’n dod i Gymru yn 2020. Caerdydd fyddai’r canolbwynt, gyda rhywfaint o weithgareddau yn Abertawe a Chasnewydd hefyd.
‘Dychrynllyd’
Mae’r cynnydd yn “ddychrynllyd”, meddai dirprwy arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Murdo Fraser wrth bapur newydd Y Scotsman, gan ychwanegu bod y cynnydd yn waeth byth o ystyried y dirwasgiad.
Ond mae’r trefnwyr a’r Llywodraeth yn dadlau y bydd y Gêmau’n dod â manteision mawr i’r wlad.
“Fe fydd y Gêmau’n rhoi hwb i fusnes, i dwristiaeth, i isadeiledd ac yn adfywio’r ddinas,” meddai’r Prif Weinidog, Alex Salmond. “Wrth gwrs, mae hwn yn ymrwymiad anferth i Glasgow, ond fe fydd y buddiannau a’r gwerth yn cael ei deimlo trwy’r Alban.”
Eisoes, mae’r Gêmau wedi costio mwy na Senedd yr Alban yn Holyrood.