Mae holl draethau pwysig Cymru wedi cyrraedd y safon sylfaenol o ran glendid dŵr. Ond mae chwe thraeth mewn trefi gwyliau wedi methu â chyrraedd safonau uwch Ewropeaidd.

Roedd 81 o draethau wedi cwrdd â’r safonau sylfaenol, meddai’r Llywodraeth, a 75 hefyd wedi cwrdd â safonau ansawdd Cyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi Cyngor Ewrop.

“Unwaith eto rwy’n hapus iawn bod traethau Cymru yn parhau i gyrraedd y safon, yn enwedig gyda’r cynnydd yn y rhai sy’n pasio canllawiau Cyngor Ewrop,” meddai’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Jane Davidson.

‘Allweddol’ o ran twristiaeth

“Mae Cymru’n gyrchfan i 8.5 miliwn o dwristiaid, ac mae’n allweddol bod safon dŵr y traethau, a’r cyfleusterau, yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad gorau posib o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig”

Dywedodd Cyfarwyddwr Asiantaeth Amgylchedd Cymru, Chris Mills bod sicrhau safonau dŵr Cymru yn flaenoriaeth iddynt.

Ond ychwanegodd y bydd angen gwneud mwy eto yn y dyfodol i sicrhau bod y safon yn cael ei gynnal yn y dyfodol, gyda chyfarwyddeb newydd o Ewrop yn codi’r safonau eto.

Y traethau coll

Yr unig rai i fethu â chyrraedd safonau Cyngor Ewrop oedd:

• Aberdyfi
• Gogledd Aberystwyth
• De Aberystwyth
• Bae Colwyn
• Y Rhyl
• Bae Abertawe