Mae asgellwr Cymru, Shane Williams yn dweud bod gan y garfan yr hunan hyder i guro’r Crysau Duon yn Stadiwm y Mileniwm dydd Sadwrn.

“R’yn ni’n credu ein bod yn ddigon da i faeddu Seland Newydd, ac fe fyddai nawr yn amser gwych i wneud hynny”, meddai Williams.

“Mae’n bosib eu maeddu nhw – maen nhw’n gwybod hynny ond, yn bwysicaf fyth, r’yn ni’n gwybod hynny.

“Rwy’ wedi bod yn edrych ymlaen at gemau’r hydref. Mae’n amser cyffrous, ac rwy’n chwarae fy rygbi gorau pan ydw i’n mwynhau.”

Un cais

Dim ond un cais y mae Williams wedi ei sgorio mewn chwe gêm yn erbyn y Crysau Duon. Roedd hwnnw yn ei gêm gyntaf yn eu herbyn – yr ornest wych yng Nghwpan y Byd 2003.

Ond ers hynny mae Seland Newydd wedi atal yr asgellwr rhag croesi’r llinell gais mewn pum gêm.

“Rwy eisiau maeddu’r Crysau Duon. Mae gormod o amser wedi mynd heibio ers y fuddugoliaeth ddiwetha’. Dyma gêm yr hydref i fi.”