Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno’n swyddogol â chynlluniau Cyngor Caerdydd i ailstrwythuro addysg gynradd Gymraeg yn ardal Caerau.
Fe fydd ysgolion Saesneg Caerau Infant School, Caerau Nursery School a Cwrt yr Ala Junior School, yn cau ac un ysgol yn cael ei hagor ar safle Cwrt yr Ala.
O ganlyniad, fe fydd ysgol gynradd Gymraeg, sydd ar hyn o bryd mewn rhan o adeilad ysgol arall, yn symud i’r safle yn Caerau. Fe fydd lle i 210 o blant yn yr ysgol newydd.
Roedd penderfyniad ynglŷn â’r ailstrwythuro wedi cael ei roi i Weinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau’r Cynulliad, Jane Hutt, ar ôl i’r cyngor dderbyn cwynion am y cynlluniau.
Fe fydd y newid yn digwydd yn swyddogol ddechrau’r flwyddyn ysgol nesa’.
Ysgol Gymraeg arall yn agor
Fe agorwyd ysgol gynradd Gymraeg newydd gwerth £3 miliwn heddiw yng Nghaerffili.
Fe fydd lle ar gyfer 240 o blant yn Ysgol Gymraeg Penallta, ar gyfer plant rhwng tair ac 11 oed.
Mae’r adeilad ar stad Cwm Calon sy’n agos i Ystrad Mynach, ac fe fydd yn cynnig addysg Gymraeg i blant o Benallta, Penybryn, Penpedairheol, Tir-y-Berth, Gelligaer, Glyn-Gaer a Glan y Nant.