Mae’r fenyw a wnaeth gacen ffug ar gyfer priodas yn dweud ei bod yn ystyried rhoi’r gorau i’w busnes.
Mae Karen Williams yn dweud ei bod wedi derbyn bygythiadau ers yr hyn y mae hi’n ei alw’n gamddealltwriaeth ac mae wedi bod at yr heddlu.
Fe gafodd y briodferch a’r priodfab, Tony ac Aimee West, iawndal o £310 ar ôl i lys glywed bod eu diwrnod priodas wedi cael ei ddifetha gan y gacen bolystyrene.
Roedden nhw wedi archebu cacen gan Karen Williams am £270 ac wedi dechrau torri i mewn iddi pan sylweddolon nhw bod rhywbeth o’i le.
“Roedd yn sioc fawr ac roedd e’n embaras mawr o flaen fy nheulu a ffrindiau”, meddai Aime West.
‘Dim amser’
Yn ôl Karen Williams, doedd y pêr ddim wedi cadw at delerau eu cytundeb a doedd hi ddim wedi cael cadarnhad o’r archeb tan deirawr cyn y wledd briodas.
Gan nad oedd digon o amser i wneud cacen iawn, fe wnaeth un ffug ac, yn ôl Karen Williams, roedd wedi cynnig yr arian yn ôl. Roedd hi’n honni fod y pâr yn gwybod beth oedd yn digwydd.
“Rydw i wedi gwneud fy ngorau. Am nad oedden nhw wedi dilyn trefn y cytundeb, dylwn i wedi dweud nad oeddwn i’n bwriadu gwneud y gacen”, meddai Karen Williams. “Roeddwn i wedi mynd allan o’m ffordd i gael y gacen ffug yn barod.”