Daethpwyd o hyd i gyrff pâr priod yn eu 80au, ddyddiau ar ôl iddyn nhw yrru llythyr ar y cyd at y BBC yn esbonio pam eu bod nhw’n mynd i ladd eu hunain.
Roedd y llythyr gan Dennis a Flora Milner, 83 a 81, o Berkshire, yn beirniadu cyfraith Prydain ynglŷn â rhoi cymorth i bobol ladd eu hunain.
Roedd y llythyr a gyrhaeddodd BBC South ddydd Iau diwetha’ yn dweud eu bod wedi “penderfynu dod â’u bywydau i ben yn heddychlon”.
Roedd rhwystro pobol rhag marw gyda’u teulu a’u ffrindiau o’u cwmpas nhw “benbleth dynol difrifol”, medden nhw.
“Mae’r hyn a ddylai fod yn hawl dynol sylfaenol wedi ei wadu i ni, i ddod â’n bywydau i ben, yn ein cartref ein hunain, gyda’n hanhwyliadau o’n cwmpas, heb i neb orfod wynebu’r gyfraith neu boendod.”
Mynd cyn y Nadolig
Dywedodd eu merch, Chrissy, bod ei rheini mewn hwyliau da ond wedi dweud na fydden nhw yno am y Nadolig. Doedden nhw ddim eisiau cyrraedd man lle’r oedden nhw’n rhy sâl i edrych ar ôl eu hunain, meddai.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Heddlu Thames Valley eu bod nhw wedi darganfod cyrff Dennis a Flora Milner.