Bydd cyn filwr yr SAS Simon Mann yn cael ei ryddhau o’r carchar heddiw ar ôl cael pardwn ar am ei ran mewn cyrch milwrol i geisio cipio grym yn Guinea Gyhydeddol.

Cafodd Simon Mann ei ddedfrydu i 35 mlynedd yn y carchar mis Gorffennaf diwethaf ar ôl cydnabod iddo arwain cynllwyn arfog i gael gwared â’r Arlywydd Teodoro Obiang Nguema Mbasogo.

Cafodd y cyn ddisgybl yn Eton ei arestio gyda 70 o bobol eraill – cyn-filwyr yn bennaf – wrth i’w hawyren gyrraedd maes awyr ym mhrifddinas Zimbabwe, Harare, ym mis Mawrth 2004.

Y cefndir

I ddechrau fe wadodd Simon Mann bod y grŵp wedi dod i gasglu arfau ar gyfer y cyrch, ond cafodd ei garcharu am saith mlynedd yn Zimbabwe am gynllwynio i brynu arfau rhyfel.

Dywedodd Simon Mann ei fod wedyn wedi ei gipio o’i garchar yn Zimbabwe a’i gymryd i Guinea Gyhydeddol i sefyll ail brawf yno.

Cafodd Mark Thatcher, mab y cyn brîf weinidog Margaret Thatcher, ddedfryd o garchar wedi’i ohirio yn De Affrica am ei ran yn ariannu cynllun Simon Mann.

Roedd yn gwadu ei fod o’n gwybod bod coup ar y gweill, ond honnodd Simon Mann bod Mark Thatcher yn rhan o’r “tîm rheoli” ac yn fwy na “buddsoddwr”.

Fe gafodd Simon Mann a phedwar arall eu rhyddhau ar dir “dynol”.