Mae’r Prif Weinidog Gordon Brown wedi rhybuddio Arlywydd Afghanistan Hamid Karzai bod angen iddo fynd i’r afael â llygredd gwleidyddol yn y wlad os yw am gadw cefnogaeth ryngwladol.
Yn ystod cyfarfod yn Rhif 10 Stryd Downing gydag ysgrifennydd y Cenhedloedd Unedig Ban Ki-Moon, dywedodd Gordon Brown bod disgwyl i Hamid Karzai “weithredu’n syth”.
“Mae’r rhain yn ddyddiau pwysig i Afghanistan wrth i’r Arlywydd gael ei urddo,” meddai. “Rydym ni eisiau ei weld yn gweithredu’n syth ynglŷn â llygredd.”
‘Cael dod adref’
Cyhoeddwyd ddoe y byddai Hamid Karzai’n aros yn Arlywydd nesa’ ar ôl i Gomisiwn Etholiadol Annibynnol Afghanistan benderfynu peidio â chynnal ail gymal yr etholiad arlywyddol.
Erbyn hynny, roedd yr unig ymgeisydd arall, y cyn Weinidog Tramor, Abdullah Abdullah, wedi tynnu’n ôl.
Dywedodd Gordon Brown bod Prydain eisiau gweld “llywodraeth heb lygredd, llywodraeth gynhwysol a llywodraeth a ddaw â ffyniant i bobol Afghanistan”.
Pe bai Hamid Karzai yn llwyddo i wneud hynny ac yn gallu cryfhau byddin a heddlu’r wlad, “byddai milwyr Prydain yn cael dod adref”.