Mae’r Heddlu wedi apelio ar ddefnyddwyr y We ar draws y byd i rannu fideo sy’n rhan o ymgyrch newydd i ddod o hyd i Madeleine McCann.
Dim ond munud yw’r ffilm ac mae’n cynnwys darluniau newydd o Madeleine a’r ffordd y gallai edrych nawr – yn chwe blwydd oed.
Y gobaith yw y bydd y fideo yn cael ei ledaenu drwy flog, e-bost a gwefannau rhyngweithio amrywiol fel ‘Facebook’ a ‘Twitter’ yn yr ymgais i ddod o hyd i’r ferch fach a ddiflannodd ym Mhortiwgal ddwy flynedd a hanner yn ôl.
Canolfan Child Exploitation and Online Protection (Ceop) sydd wedi lansio’r apêl ac mae’r ffilm yn targedu ffrindiau neu berthnasau’r sawl sy’n gyfrifol am herwgipio Madeleine.
Yn ôl pennaeth y ganolfan, Jim Gamble, mae’r fideo mewn chwe iaith wahanol ac roedd seicolegwyr wedi rhoi help gyda’r sgriptio.
Dywedodd mai’r gobaith fyddai “darbwyllo” unrhyw dyst i “wneud y peth iawn” .
“Rydyn ni’n ceisio targedu partner, aelod teulu, ffrind, neu unrhyw un a oedd yn gyfrifol am ddiflaniad Madeleine McCann.”
‘Targedu partner, aelod teulu’
Roedd Madeleine bron yn bedair blwydd oed pan ddiflannodd o fflat gwyliau’r teulu yn Praia da Luz ym Mhortiwgal ar 3 Mai, 2007 – wrth i’w rhieni giniawa â ffrindiau mewn bwyty gerllaw.
Roedd yr ymchwiliad enfawr yn un dadleuol wrth i’w rhieni ac wedyn Sais alltud gael eu rhoi ar restr y rhai dan amheuaeth – cyn cael eu clirio wedyn.
Roedd yna apêl ariannol enfawr hefyd i godi cronfa i helpu gyda’r chwilio.