Mae’r cyn Ysgrifennydd Cartref John Reid wedi clodfori Alan Johnson am ei “asesiad gonest” o fethiannau polisi mewnfudo’r Llywodraeth.

Ond mae ei wrthwynebwyr wedi ei gyhuddo o newid ei diwn cyn yr Etholiad Cyffredinol y flwyddyn nesaf.

Yn ei araith gyntaf ar y pwnc, dywedodd Alan Johnson bod Llafur wedi delio gyda mewnfudo mewn modd “lletchwith” a bod gweinidogion wedi anwybyddu problemau gyda’r sustem “yn rhy hir”.


Pedwar pwynt

Yn ôl Alan Johnson, mae yna bedwar prif bwynt y dylai pawb eu derbyn:

• Nad oedd unrhyw “ddadl gall” tros atal mewnfudo’n llwyr.

• Bod rhai rhannau o wledydd Prydain wedi eu heffeithio’n “anghyfartal” gan fewnfudo a bod hynny yn rhoi “straen” ar swyddi a gwasanaethau.

• Bod gwledydd eraill yn dioddef o broblemau wedi eu hachosi gan fewnfudo.

• Y dylai pobol sy’n dod i fyw i wledydd Prydain ddysgu Saesneg, ufuddhau i’r gyfraith a thalu trethi.

Dywedodd bod syniad y Torïaid am uchafswm mewnfudwyr yn “fympwyol” ac yn niweidio busnesau sydd ag angen gweithwyr crefftus.

‘Rhy hwyr’

Dywedodd John Reid bod Alan Johnson yn “gywir i dderbyn bod camgymeriadau wedi eu gwneud yn y gorffennol”.

Ond yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr, Chris Grayling, doedd y Llywodraeth ddim yn delio â’r mater mewn modd “cymedrol a phwyllog”.

“Dri mis yn ôl, roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn dweud nad oedd yn colli cwsg dros fewnfudo,” meddai. “Nawr mae’n cyfaddef ei fod yn rhoi pwysau anferth ar nifer o gymunedau.”

Roedd “yr ymddiheuriad dair miliwn o fewnfudwyr yn rhy hwyr,” meddai Syr Andrew Green, cadeirydd y corff gwrth-fewnfudo, Migrationwatch UK.

“Mae Llafur wedi mynd ati i annog mewnfudwyr i ddod yma, er mwyn achosi newid mawr yn ein cymdeithas gan wybod y byddai’n gwbl groes i farn y cyhoedd,” meddai.