Mae Llys Cyfansoddiadol y Weriniaeth Tsiec wedi cefnogi Cytundeb Lisbon, gan ddweud ei fod yn gyfreithlon o dan gyfansoddiad y wlad.

Mae’r penderfyniad heddiw yn cael gwared â’r rhwystr olaf cyfreithiol i’r cytundeb ac yn cynyddu’r pwysau ar yr Arlywydd Vaclav Klaus i arwyddo’r ddogfen.

Ei lofnod ef yw’r cam olaf cyn cadarnhau’r Cytundeb a fyddai’n creu trefn newydd i reoli’r Undeb Ewropeaidd.

Roedd Vaclav Klaus wedi dweud ei fod e am ddisgwyl am benderfyniad y llys cyn penderfynu cefnogi’r cytundeb ai peidio. Mae e’n pryderu y bydd y cytundeb yn rhoi gormod o bŵer yn nwylo sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel.

Mae’r cytundeb, ffrwyth bron i ddegawd o drafod a checru, wedi ei ddilysu gan y 26 gwlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd yn creu swydd newydd Arlywydd yr Undeb Ewropeaidd, yn rhoi mwy o bŵer i’w bennaeth polisi tramor, ac yn symleiddio’r modd y mae’r Undeb yn gwneud penderfyniadau.