Fe fu ffordd yr M4 ar gau yn ardal Abertawe ar ôl i geir lithro yn y tywydd garw ac achosi damwain fawr.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Llangyfelach a Phenllergaer ac o ganlyniad, fe fu’r ffordd ar gau i gyfeiriad y gorllewin rhwng cyffordd 46 a 48 gan achosi cymaint â thair milltir o dagfeydd.
O ran niwed, doedd y ddamwain ddim yn un ddifrifol, yn ôl heddlu Abertawe, ond fe fu’n rhaid symud y cerbydau er mwyn clirio’r ffordd.
Does yna ddim sôn fod neb wedi eu brifo ond roedd tua deg o geir yn rhan o’r ddamwain.