Ifan Morgan Jones sy’n gofyn beth yw’r ateb i’r argyfwng anafiadau sydd ar gynnydd yn hemisffer y Gogledd…

Mike Phillips, Adam Jones, Lee Byrne, Mark Jones … Pedwar chwaraewr allweddol wedi eu hanafu cyn y gêm yn erbyn y Crysau Duon y penwythnos yma.

O bosib y gwahaniaeth rhwng buddugoliaeth gyntaf Cymru dros y Crysau Duon ers 50 mlynedd a pharhad o’r un hen stori ddydd Sadwrn.

Ystyriwch Loegr druan. Julian White, Nick Easter, Andrew Sheridan, Lee Mears, a Phil Vickery ddim yn ffit i wynebu Awstralia yn Twickenham. Maen nhw eisoes wedi colli 12 o’u sgwad o 32. Mae’n rhestr sy’n parhau.

Mae ‘attritional’ yn air yr ydym wedi bod yn ei glywed lot ym maes rygbi yn ddiweddar, a dyna hoff dacteg Warren Gatland. Yn 2008 fe weithiodd.

Roedd Cymru a’r timau eraill yn arbennig o agos mewn gemau gyda sgôr isel, cyn i eiliad o wychder, fel arfer gan Shane Williams, eu rhoi nhw drwy’r bwlch.

Hoff dacteg – malu’r lleill

Dyma hoff dacteg timau yn Uwch Gynghrair Guinness hefyd. Mae’r timau’n mathru ei gilydd am 80 munud tan bod rywbeth yn torri – lein yr amddiffyn, fel arfer.

Ond yn aml iawn erbyn hyn mae hefyd yn torri ambell ysgwydd, coes neu fraich. Er mwyn medru chwarae’r math yma o rygbi am 80 munud mae’r hen chwaraewyr chwim oedd yn rhoi’r bêl drwy’r dwylo wedi eu disodli gan gwlffynnau 18 stôn.

Byddai cymharu gemau Camp Lawn 2005 a 2008 yn dangos yn syth faint y mae’r gêm wedi newid. Yn hytrach na chwaraewyr medrus oedd yn rhedeg o gwmpas ei gilydd mae chwaraewyr anferth sy’n rhedeg i mewn i’w gilydd.

Rhybuddiodd meddyg y Llewod am hyn ar ôl yr ail brawf yn Pretoria, pan aeth Gethin Jenkins ac Adam Jones, ymysg eraill, oddi ar y cae gydag anafiadau tymor hir.


Lomu, Lomu, Lomu

Ydi hyn yn gwneud rygbi’n fwy o hwyl i’w wylio nag yr oedd? Ddydd Sadwrn, roedd hi’n 10 mlynedd ers gêm y Crysau Duon yn erbyn Ffrainc yn 1999.

Dim ond un o’r brid newydd o chwaraewyr rygbi oedd ar y cae bryd hynny – Jonah Lomu – a gellid dadlau nad oes yr un gêm well wedi bod ers hynny.

Erbyn hyn mae pob chwaraewr yn Jonah Lomu. Ac o ganlyniad mae hanner chwaraewyr gorau Cymru yn mynd i fod yn gwylio o’r eisteddleoedd.

Yn anffodus does gan Gymru ddim digon o chwaraewyr o safon i fedru fforddio colli eu hanner nhw.

Yr ateb

Beth yw’r ateb felly? Pob chwaraewr i wisgo helmed a pads fel yn yr NFL? Ynteu, eto fel yr NFL, tua hanner cant o chwaraewyr ar y fainc i ddisodli’r rheiny sy’n cael eu hanafu?

Oes angen i’r chwaraewyr, sydd eisoes yn wynebu gemau yn eu cynghreiriau eu hunain, y Cwpan Heineken a gemau rhyngwladol, chwarae llai?

Ynteu a fyddai newid y rheolau, er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar chwarae chwim a llai o dolcio, yn datrys y broblem?

Gyrrwch eich awgrymiadau at gol@golwg.com ac fe fyddwn ni’n eu cyhoeddi nhw fan hyn …