Mae’r storm drofannol Mirinae wedi dod â llifogydd difrifol i ran o ganolbarth Fietnam, gan ladd o leia’ 11 o bobol.
Mae dau arall ar goll a nifer o deuluoedd wedi gorfod dringo ar doeon eu tai i osgoi’r dŵr.
Yn ôl gwasanaeth newyddion Than Nien, mae’r storm wedi difrodi 2,5000 o dai, wedi suddo 27 cwch, a dinistrio 4,800 erw (2,000 hectar) o ffermydd.
Roedd Mirinae wedi taro’r Pilipinas dros y penwythnos, gan ladd 20 o bobol, cyn colli stêm wrth iddo groesi Môr Deheuol China tuag at Fietnam.
Llifogydd – y manylion
Dywedodd swyddogion bod y llifogydd yn rhanbarth Phu Yen wedi lladd 10 o bobol yno ac fe effeithiwyd ar ddwsin o bentrefi yn rhanbarth Binh Dinh gerllaw wrth i afon Ha Thanh orlifo. Fe foddwyd un dyn yno ac mae dau arall ar goll.
(Llun: Rhanbarth Phu Yen)