Cadarnhawyd heddiw y bydd banciau RBS a Lloyds yn cael eu torri’n ddarnau er mwyn rhoi cyfle i’w cystadleuwyr.
Ond fe fydd y Llywodraeth yn tywallt £30 biliwn arall yn y ddau fanc sydd eisoes yn rhannol eiddo i’r wladwriaeth.
Fe fydd RBS yn gwerthu canghennau yn Lloegr a Chymru, canghennau NatWest yn yr Alban, a’i gwmnïau yswiriant Churchill a Direct Line.
Fe fydd Lloyds yn gwerthu canghennau yn yr Alban, canghennau Cheltenham & Gloucester, a’r busnes ar-lein Intelligent Finance.
Gorchymyn Ewropeaidd
Mae’r banciau yn talu’r pris am dderbyn cynhaliaeth y wladwriaeth – gyda’r gorchymyn i’w rhannu yn dod o’r Undeb Ewropeaidd.
Y pryder yw y byddai modd iddyn nhw gymryd mantais o’r buddsoddiad i dagu eu cystadleuwyr.
Wrth roi’r holl arian ychwanegol mae’r Llywodraeth yn dweud y byddan nhw’n gosod “amodau caled” ar y banciau.
Yn y cyfamser bydd taliadau bonws i gyfarwyddwyr gweithredol yn cael eu gohirio tan 2012.