Mae gormod o bobol yng Nghymru yn ddibynnol ar fudd-dal tai, meddai’r Ceidwadwyr – yn enwedig pobol ddi-waith.

Maen nhw wedi casglu ffigurau swyddogol sy’n dangos fod bron chwarter y cartrefi mewn rhai ardaloedd yn derbyn y cymorth.

Trwy Gymru, mae 17.5% o bobol yn derbyn budd-dal tai ac mewn 10 o gynghorau sir, mae’r canran yn uwch na’r cyfartaledd trwy wledydd Prydain.

Yn ôl y ffigurau – sy’n dod yn wreiddiol gan y Llywodraeth – mae’r nifer sy’n derbyn budd-dal tai wedi codi mewn 17 o siroedd ers 2007.

Ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful y mae’r ffigurau ucha’, meddai’r Ceidwadwyr, ac yng Nghaerdydd y cafwyd y cynnydd mwya’ yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’.

Roedd y ffigurau’n “ddychrynllyd”, meddai llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru yn Nhŷ’r Cyffredin, Cheryl Gillan.

“Tra bod budd-dal tai yn rhoi help gwerthfawr i bobol mewn gwaith neu bensiynwyr, y gwirionedd yw ei fod i lawer yn arwydd o ddiwylliant ehangach o ddibyniaeth,” meddai.

Pum sir ucha’ Cymru

Canran y cartrefi sy’n derbyn budd-dal tai

Blaenau Gwent 23.7%
Merthyr Tudful 22.8%
Torfaen 20.8%
Caerdydd 20.6%
Casnewydd 20.5%