Fe fydd cymdeithas warchod anifeiliaid yn herio penderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i ddifa moch daear mewn un ardal yng Nghymru.

Mae’r Ymddiriedolaeth Foch Daear wedi anfon llythyr at y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, yn rhybuddio y byddan nhw’n cymryd camau cyfreithiol i atal y cynllun.

Os na fydd y Gweinidog yn newid ei meddwl ar ôl darllen y llythyr, fe fydd yr Ymddiriedolaeth yn gofyn am arolwg barnwrol – pan fydd barnwr mewn llys yn ystyried a yw’r penderfyniad yn gyfreithlon.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn dadlau nad oes tystiolaeth wyddonol i ddangos y byddai difa moch daear yn atal TB mewn gwartheg ac, felly, bod y penderfyniad yn groes i’r gyfraith.

Gohirio

Beth bynnag fydd y dyfarniad, fe allai’r broses ynddi ei hun arwain at ohirio’r difa ac mae’r Gymdeithas yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn newid eu meddwl beth bynnag.

Fe gyhoeddwyd y gorchymyn i roi’r hawl i ddifa moch daear ym mis Medi eleni ac fe ddaeth i rym ar 21 Hydref.

Mae’n rhoi hawl cyffredinol i’r Llywodraeth, er mai’r bwriad yw dechrau gyda difa arbrofol mewn un ardal yng ngogledd Sir Benfro.

Dyw’r Ymddiriedolaeth ddim yn credu bod yr ardal yn addas ar gyfer yr arbrawf, am nad yw ei hynysu ddigon oddi wrth ardaloedd o’i chwmpas.

Dim hawl i dorri deddf meddai’r Ymddiriedolaeth

“Yn anfoddog iawn yr ’yn ni’n dechrau ar y broses o gael arolwg barnwrol, oherwydd ein perthynas gyffredinol dda gyda Llywodraeth y Cynulliad,” meddai Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, David Williams.

“R’yn ni’n gobeithio y bydd ein dadleuon – sydd ar sail wyddonol – yn cael eu cymryd o ddifri’ ac na fydd rhaid gweithredu.

“Mae gan yr Ymddiriedolaeth gydymdeimlad at broblem ffermwyr sy’n diodde’ o effeithiau diciâu ymhlith gwartheg ond dyw gofid o’r fath ddim yn rhoi’r hawl i’r Gweinidog anwybyddu tystiolaeth wyddonol neu dorri deddf.

Llun (Gwifren PA)