Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi galw am ragor o staff mewn ysbytai yng Nghymru er mwyn diogelu cleifion.

Yn ôl arolwg newydd, mae 43% o nyrsys yn credu nad oes digon o staff i gwrdd ag anghenion cleifion a 44% yn dweud bod hynny’n peryglu cleifion o leia’ unwaith neu ddwywaith bob wythnos.

Mae’r ddau ffigwr yn waeth yng Nghymru nag yng ngweddill gwledydd Prydain ac mae llai o nyrsys Cymru yn cael hyfforddiant mewn meysydd allweddol.

• Er enghraifft, dim ond 50% o nyrsys yng Nghymru sy’n cael hyfforddiant mewn rheoli heintiau o’i gymharu â’r cyfartaledd Prydeinig o 71%.

• Mae nyrsys Cymru hefyd yn llai tebygol o gymryd amser o’r gwaith er mwyn hyfforddi – 40% o’i gymharu â 48% ar gyfartaledd trwy wledydd Prydain.

“Mae’r adroddiad yn dangos bod nyrsys a gweithwyr gofal iechyd ar draws y wlad yn ei chael yn anodd ymdopi gyda’r angen i gynnig gofal iechyd ac ymdrechu i arbed arian i’r gwasanaeth”, meddai Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Tina Donnelly.

“Mae’n rhaid i nyrsys fod yn hyderus y bydd adnoddau ar gael i’w galluogi i ddarparu gofal diogel.”

‘Pryderus’

Mae’r ffigurau diweddara’n achos pryder, meddai llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew R T Davies.

“Mae nyrsys yn gwneud job ffantastig ond mae angen adnoddau a chefnogaeth ddigonol arnyn nhw,” meddai.

“Mae hefyd yn hanfodol iddyn nhw dderbyn yr hyfforddiant priodol. Gydag achosion ffliw moch yn cynyddu eto, mae’n achos pryder i weld mai dim ond hanner nyrsys Cymru sydd wedi cael hyfforddiant i reoli heintiau”

Arian – Cymru’n waeth na’r gweddill

Mae ffigurau eraill yn yr arolwg ymwneud ag amodau ariannol nyrsys, gyda’r ffigurau yng Nghymru unwaith eto’n waeth na’r cyfartaledd.

• Mae mwy o nyrsys yng Nghymru (28%) yn cael trafferthion ariannol nag yng ngweddill gwledydd Prydain (23%).

• Mae 74% o nyrsys Cymru’n cymryd swyddi eraill er mwyn cael rhagor o incwm.

• Mae gan 79% o nyrsys Cymru gyfrifoldebau yn gofalu am rywun arall.