O’r flwyddyn newydd ymlaen, fe fydd ysgolion ac awdurdodau lleol yn gallu cosbi disgyblion ysgol sy’n camfihafio ar fysys ysgol. Fe allai hynny gynnwys eithrio.

Am y tro cynta’, mae Côd Ymddygiad wrth Deithio yn cael ei gyhoeddi ar gyfer Cymru gyfan gyda’r nod o wella ymddygiad a diogelwch disgyblion sy’n teithio i’r ysgol a’r coleg.

Bydd y Côd yn dod i rym ar ddechrau’r tymor ym mis Ionawr 2010 ac mae’n cwmpasu disgyblion rhwng 5 ac 19 oed a phob dull o deithio – y bws, y trên, cerdded a beicio,

Bydd y Côd yn cael ei ymgorffori ym mholisi ymddygiad pob ysgol ac fe fydd gan brifathrawon hawl statudol i gymryd camau yn erbyn disgyblion, hyd yn oed os nad ydyn nhw ar safle’r ysgol.

‘Dywedwch wrth athro, rhiant neu yrrwr’

Bydd disgyblion yn cael eu hannog i ddweud wrth athro, rhiant neu yrrwr os ydyn nhw’n gweld disgybl arall yn camymddwyn.

Fe fydd yna gyfrifoldeb ar yrwyr i ddweud wrth awdurdodau lleol neu ysgolion am unrhyw achosion o gamymddwyn neu ymddygiad peryglus neu am unrhyw ymddygiad sy’n tarfu ar y daith.

Fe fyddai hynny wedi bod yn berthnasol i un o’r achosion sydd wedi arwain at y camre newydd – marwolaeth y bachgen ysgol Stuart Cunningham Jones ym Mro Morgannwg.

Roedd yna dystiolaeth bod plant wedi ymyrryd â’r gyrrwr pan gafodd ef ei ladd mewn damwain yn 2002.

Mae ymgyrchwyr ers hynny wedi galw am sedd i bob plentyn ar fws a gwregys diogelwch i bawb. Ar hyn o bryd, does gan y Cynulliad ddim o’r hawl i greu rheolau felly.

‘Gwella ymddygiad’

“Mae’r Cod yn canolbwyntio ar negeseuon positif ynghylch hawliau, cyfrifoldebau a diogelwch plant a phobol ifanc wrth iddyn nhw deithio rhwng eu cartrefi a’r coleg a’r ysgol,” meddai Ieuan Wyn Jones, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

“Rydym yn ymwybodol o sut y gall camymddwyn effeithio ar yrwyr bysys – rydym yn credu y bydd y Cod hwn, ochr yn ochr â’r hyfforddiant priodol i yrwyr, yn cael effaith bositif ar ymddygiad disgyblion, gan wneud teithio’n fwy diogel i bawb.”