Mae Gordon Brown eisoes wedi llongyfarch Hamid Karzai ar gael ei wneud yn Arlywydd Afghanistan am dymor arall.
Dim ond heddiw y cafodd ail rownd yr etholiadau arlywyddol eu canslo ar ôl i unig wrthwynebydd Hamid Karzai dynnu’n ôl, gan ddweud na fyddai’r bleidlais yn deg.
Er gwaetha’r honiadau o lygredd, mae’n ymddangos bod y Prif Weinidog wedi ffonio’r Arlywydd heddiw ac wedi ei annog i fynd ati i greu undod.
Hygrededd
Yn ôl Downing Street, roedd Hamid Karzai yn ei dro wedi cytuno bod angen cryfhau heddlu a byddin y wlad.
Doedd yna ddim sôn am yr amheuon sy’n sicr o godi am hygrededd yr Arlywydd ar ôl tystiolaeth bod ei gefnogwyr wedi twyllo’n ddigywilydd yn ystod rownd gynta’r pleidleisio.
Ond fe allai’r ffaith fod arlywyddiaeth wedi ei setlo brysuro penderfyniad Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, i anfon rhagor o filwyr i Afghanistan.
Llun: Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd unedig, Ban Ki-moon yn cael ei groesawu gan Hamid Karzai i Afghanistan heddiw