Fe wnaeth 15.8m o bobl wylio’r Cymro Lloyd Daniels yn ennill ei le yn rownd nesaf cystadleuaeth X Factor neithiwr.

Roedd hynny’n record i’r rhaglen, gan guro’r gynulleidfa ucha’ cyn hynny o bron 2 filiwn o bobol.

Bu raid i’r Cymro ganu mewn rhaglen arbennig yn erbyn cantores o’r enw Rachel Adedeji, er mwyn ennill y lle ola’ yn y rowndiau terfynol.

Y record cyn neithiwr oedd 14.8 miliwn, ffigwr a gafodd ei daro ddwywaith, ar 18 Hydref a 2r i 5 Hydref.

Ar un adeg, tua diwedd y rhaglen roedd mwy na hanner holl gynulleidfa deledu’r noson yn gwylio ac ar gyfartaledd tros yr awr, roedd 13.9 miliwn o flaen y sgrîn, sef 47.8% o’r holl wylwyr.

Mae ystadegau neithiwr yn well hyd yn oed na rownd derfynol 2008 pan oedd 14.6 miliwn o bobol yn gwylio Alexandra Burke yn ennill y gystadleuaeth.