Dylid cael gwared ar ddedfrydau o garchar o ddau fis neu lai, a rhoi troseddwyr ar gyrsiau llymach o dan y gwasanaeth prawf, yn ôl cyn-arweinydd y Ceidwadwyr, Iain Duncan Smith.

Mewn araith ymhellach ymlaen heddiw (dydd Llun) bydd y cyn-arweinydd yn dadlau bod tymhorau mor fyr – sydd fel arfer yn cael eu lleihau i bedair wythnos – yn “ffars” ac yn gwneud dim i helpu’r miloedd o droseddwyr cyson.

Bydd yn galw hefyd am ddedfrydau gwasanaeth cymunedol a fydd yn cael eu monitro’n fanylach gyda phwyslais cryf ar adsefydlu a thriniaeth i rai sy’n gaeth i gyffuriau.

Byddai llysoedd yn cael y grym i garcharu troseddwyr ar unwaith os byddan nhw’n torri amodau eu rhyddhad ar brawf.

Bydd ei araith yn cyd-fynd â chyhoeddi adroddiad ganddo ar y system cyfiawnder troseddol.

‘Ffârs’

Rhybuddia Iain Duncan Smith bod “drws troi” o droseddwyr cyson yn “tagu’r carchardai”.

Dywed mai dedfrydau byr iawn yw prif achos “anhrefn y gorboblogi”.

“Y ffârs mwyaf yw dedfryd 42 diwrnod sy’n cael ei phennu ar ddydd Gwener,” meddai. Mae 42 diwrnod yn cael ei dorri’n awtomatig i 21 diwrnod, a’i dorri ymhellach wedyn o 18 diwrnod yn sgil y cynlluniau brys ar gyfer rhyddhau cynnar.

“Ond gan nad yw carcharorion yn cael eu rhyddhau dros benwythnos, mae’r troseddwr yn cael ei ollwng yn rhydd y diwrnod hwnnw gyda grant rhyddhau heb orfod treulio dim amser dan glo.”