Mae achubwyr wrthi heno’n chwilio am bobl a all fod wedi eu caethiwo o dan dirlithriad ar draeth ar ynys Tenerife.
Mae o leiaf ddwy wraig wedi cael eu lladd, gyda chadarnhad bod un ohonyn nhw o Brydain.
Digwyddodd ychydig wedi 4 o’r gloch amser lleol ar draeth bychan yn Playa de los Gigantes.
Mae’r ardal yn boblogaidd gydag ymwelwyr o Brydain, a dywedwyd heno bod y wraig, nad yw wedi cael ei henwi, ar wyliau gyda’i theulu.
Gall fod dau arall wedi eu claddu o dan y tirlithriad, yn ôl llefarydd ar ran Gweinyddiaeth Gartref Sbaen.
Mae’r traeth wedi bod yn ferw o brysurdeb ers y digwyddiad ac mae’r achubwyr yn dal wrthi er ei bod hi bellach wedi tywyllu.