Mae sefyllfa’r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn ôl arolwg YouGov yr wythnos ddiwethaf wedi cryn sylw eisoes – fel yn y stori’n dwyn y pennawd ‘Llafur Cymru’n wynebu chwalfa’ ar Golwg360 ddydd Mawrth.

Mae agweddau pobl at arweinwyr y gwahanol bleidiau – gan gynnwys y tri ymgeisydd am arweinyddiaeth Llafur – hefyd wedi cael sylw helaeth yn y wasg a’r cyfryngau.

Yr hyn sy’n werth craffu arno ymhellach ydi agweddau pobl Cymru at ddatganoli – yn arbennig o ystyried y pwysau am refferendwm cynnar ar bwerau deddfu i’r Cynulliad.

Agweddau cadarnhaol at ddatganoli?

Mae llawer iawn o atebion yn awgrymu agweddau cadarnhaol at ddatganoli – gyda mwyafrifoedd gweddol glir yn dangos eu bod nhw’n ymddiried mwy yn y Cynulliad i weithio er lles Cymru; fod y Cynulliad wedi gwella rhywfaint ar y ffordd y mae Cymru’n cael ei llywodraethu; ac wedi rhoi llais cryfach iddi ym Mhrydain.

Yn yr un modd mae mwyafrif tebyg yn credu mai’r Cynulliad ddylai gael y dylanwad mwyaf ar y ffordd y mae Cymru’n cael ei llywodraethu, a mwyafrif digon sylweddol yn cytuno â gosodiad y dylai’r Cynulliad gael yr un pwerau â senedd yr Alban (63% o blaid, 28% yn erbyn).

Ar y llaw arall, pan ofynnir y cwestiwn penodol sut y bydden nhw’n pleidleisio mewn refferendwm “yfory” am hawliau deddfu llawn, mae’r ateb yn awgrymu brwydr llawer agosach – 42% o blaid, 37% yn erbyn, 6% ddim am bleidleisio a 15% ddim yn gwybod.

Mae dadansoddiad rhanbarthol o’r ffigurau hyn yn awgrymu tueddiad yn erbyn yn y Gogledd, yn y De-ddwyrain ac yng Ngorllewin y De (sef Abertawe a’r cyffiniau).

Mae hefyd yn awgrymu mwyafrif yn erbyn mwy o bwerau ymhlith y rhai nad ydyn nhw’n siarad dim Cymraeg – 42% o gymharu â 35% o blaid.

Dewisiadau cyfansoddiadol

Ar lawer ystyr, un o rannau mwyaf dadlennol yr arolwg ydi’r atebion i’r cwestiynau penodol am farn pobl ar y math o drefniant cyfansoddiadol y bydden nhw’n ei ffafrio i Gymru.

Mae’r rhain yn awgrymu niferoedd cymharol agos at ei gilydd o blaid ac yn erbyn mwy o bwerau i Gymru.

Yn debyg iawn i arolygon barn chwe mis yn ôl, y canlyniadau yw:
Annibyniaeth 14%
Senedd ddeddfwriaethol o fewn Prydain 34%
Cadw’r Cynulliad fel y mae 27%
Cael gwared ar y Cynulliad 17%
Ddim yn gwybod 6%

Mae’n ddigon rhesymol cyffredinoli’r rhain fel 48% o blaid mwy o rym (34% o blaid senedd + 14% o blaid annibyniaeth), o gymharu â 44% yn erbyn (27% dros gadw’r Cynulliad fel y mae + 17% dros gael gwared arno).

Senedd Ddeddfwriaethol

Dyma’r dewis mwyaf poblogaidd o ddigon – ym mhob rhanbarth ond un ac ym mhob grwp oedran.

Mae cryn dipyn mwy o gefnogwyr Plaid Cymru hefyd yn ffafrio senedd ddeddfwriaethol (47-49%) nag sydd eisiau annibyniaeth (31-38%). Efallai y bydd hynny’n ymddangos yn syndod i rai, ond mae’n gyson â chanlyniadau arolygon barn eraill.

Mae cefnogwyr y Torïaid wedi eu hollti dair ffordd 25% o blaid senedd ddeddfwriaethol, 30% o blaid cadw’r Cynulliad fel y mae, a 32% eisiau dileu’r Cynulliad.

Mae 42% o bleidleiswyr Llafur o blaid senedd, o gymharu â 34% dros gadw’r Cynulliad fel y mae, a 10% dros ei ddileu.

Yr hyn sy’n awgrymu cynnydd yn y gefnogaeth i ddatganoli yng Nghymru ydi’r gwahaniaeth rhwng gwahanol oedrannau.

Ymhlith pobl ifanc o 18 i 34 oed, mae 43% o blaid senedd ddeddfwriaethol, 25% o blaid cadw’r Cynulliad fel y mae, a dim ond 8% eisiau dileu’r Cynulliad.

Ymysg pobl dros 55, y ffigurau cyfatebol ydi: 30% o blaid pwerau deddfu o gymharu â 25% dros gadw’r Cynulliad fel y mae a 23% arall eisiau ei ddileu.

Annibyniaeth

Yn unol ag arolygon tebyg yn y gorffennol, lleiafrif bychan sy’n aros yn gymharol ddigyfnewid sydd o blaid annibyniaeth i Gymru, sef 14%.

Yr hyn sy’n fwy o syndod ydi bod mwy na hanner y rhain eisiau torri’n rhydd oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal â’r Deyrnas Unedig.

Nid yw’n glir pam fod y cwestiwn yma’n cael ei ofyn, oherwydd prin fod y syniad yma’n bwnc trafod heb sôn am fod yn bolisi sy’n cael ei arddel gan unrhyw blaid.

Er mai lleiafrif o gefnogwyr Plaid Cymru sy’n ffafrio annibyniaeth (rhywle rhwng 31% a 38%), dydi’r gefnogaeth i annibyniaeth ddim wedi ei gyfyngu iddyn nhw.

Mae lleiafrif o gefnogwyr Llafur (12-13%) ac o gefnogwyr y Toriaid (10-11%) hefyd yn ffafrio annibyniaeth – cyfran nad yw fawr is mewn gwirionedd na’r gyfran o’r boblogaeth.

Diddorol hefyd ydi sylwi nad oes fawr ddim gwahaniaeth rhwng safbwyntiau’r gwahanol genedlaethau ar annibyniaeth i Gymru. Mae’r gyfran sydd o blaid annibyniaeth ymhlith pobl ifanc rhwng 18 a 34 oed (14%) bron yn union yr hyn ydi o ymhlith rhai dros 55 oed (13%).

Felly, er y shifft mewn agweddau tuag at ddatganoli pellach ymysg yr ifanc, does dim arwydd o unrhyw fath o symudiad cyfatebol tuag at annibyniaeth. Ffaith sy’n chwalu’n llwyr unrhyw ddadl fod datganoli’n gychwyn taith ‘lithrig’ at arwahanrwydd.

Gwahaniaethau rhanbarthol

Mae’n debyg mai doeth fyddai peidio darllen gormod i ddadansoddiad rhanbarthol y canlyniadau gan fod y ffigurau’n weddol fychan.

Mae’n werth nodi fodd bynnag fod y gefnogaeth wanaf yn ardal Gorllewin y De, sef Abertawe a’r cylch. Dyma’r unig ranbarth lle mae cyfanswm y rhai sydd o blaid mwy o rym i Gymru (41%) yn llai na’r cyfanswm sydd yn erbyn (51%).

Mae’r arolwg yn awgrymu hefyd fod Caerdydd erbyn hyn yn cynhesu at ddatganoli. Mae’r cyfanswm o 55% sy’n ffafrio mwy o bwerau i Gymru’n uwch na’r hyn ydi o yn y Canolbarth a’r Gorllewin ac yn y Gogledd.

Casgliad

Mae’r arolwg yn tueddu i gadarnhau’r gosodiad mai proses ydi datganoli. Mae’n awgrymu bod y broses honno’n mynd ymlaen yn raddol – ond gan ddangos yn glir hefyd nad ydi annibyniaeth yn rhan o’r broses mewn unrhyw ffordd.

Mae’n awgrymu y byddai ychydig yn fwy o bobl Cymru o blaid pwerau deddfu i’r Cynulliad nag a fyddai yn erbyn, er nad ydi’r ffigurau moel ddim yn dangos bod y ddadl wedi cael ei hennill yn llwyr eto.

Ar yr un pryd, rhaid cofio nad safbwyntiau cadarn ar faterion cyfansoddiadol fydd yr unig ffactor, o bell ffordd, mewn refferendwm. Mae hyn oherwydd y bydd cymaint yn dibynnu ar agweddau pobl at wahanol bynciau gwleidyddol eraill ar y pryd, a faint a fydd yn trafferthu pleidleisio, ac ati.

Camgymeriad felly fyddai rhoi gormod o bwys ar ganlyniadau unrhyw gwestiwn er mwyn darogan canlyniad refferendwm. Eu prif werth yn hytrach i gefnogwyr datganoli ydi fel canllawiau i ddangos y math o ddadleuon a fyddai’n dylanwadu ar bobl i wthio’r broses ymlaen.