Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi cyfres o rybuddion tywydd garw ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon, arfordir gorllewinol yr Alban a de-orllewin Lloegr.
Mae disgwyl y bydd ardal gynyddol o wasgedd isel yn dod â rhagor o law trwm a gwyntoedd cryfion, ac y bydd tywydd oerach yn rhoi diwedd ar yr haf bach Mihangel.
Mae’r glaw trwm dros nos neithiwr wedi rhoi diwrnod prysur i’r gwasanaethau brys ledled Cymru heddiw, a chyhoeddodd Asiantaeth yr Amgylchedd 25 o rybuddion llifogydd ar afonydd yng Nghymru y bore yma.
Erbyn heno, nid oes yr un rhybudd o lifogydd difrifol yn dal mewn grym, ond mae’r Asiantaeth yn dal i gadw gwyliadwriaeth ar 16 o afonydd.
Achub o lifogydd
Mae Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi gorfod delio â dros gant o ddigwyddiadau, gan gynnwys llifogydd mewn tai ac achub pobl o geir.
Ym Meidrim ger Sanclêr cafodd tri o bobl eu hachub o fwthyn, a dau oedolyn a babi o dŷ arall. Bu’n rhaid i ymladdwyr tân achub rhywun o lawr cyntaf tŷ ger Dinbych y Pysgod. Cafodd pedwar o bobl eu hachub o ddau gerbyd gwahanol yng Nghastell Newydd Emlyn a oedd wedi cael eu dal yn y dilyw. Ac yn Landore, ger Abertawe bu’n rhaid defnyddio winsh i godi car yn cynnwys dwy ddynes i ddiogelwch.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd wedi bod yn brysur gyda llifogydd yn ardaloedd Caerffili, Merthyr, Aberdâr, Maesteg a rhannau o’r Rhondda.
Yn ôl gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth y Cynulliad, mae amryw o ffyrdd a lonydd wedi gorfod cau, ac mae gwyntoedd cryfion wedi rhwystro lorïau rhag defnyddio rhai pontydd.
Llun: Llifogydd ar ffordd ger Caerffili y bore yma (Gareth Llewellyn/PA Wire)