Bydd traffordd gyntaf Prydain, yr M1, yn dathlu penblwydd yn 50 oed yfory.
I nodi’r achlysur, bydd y Gweinidog Ffyrdd, Chris Mole, yn dadorchuddio plac yng ngorsaf wasanaethau enwocaf y draffordd yn Watford Gap, swydd Northampton.
Cafodd darn cyntaf y ffordd 193 milltir ei hagor yn swyddogol ar 2 Tachwedd 1959 gan y Gweinidog Trafnidiaeth ar y pryd, Ernest Marples.
Roedd y darn 62 milltir hwnnw’n ymestyn rhwng y mannau sy’n cael eu hadnabod heddiw fel cyffordd 5 ger Watford a chyffordd 18 ger Rugby.
“Dw i wrth fy modd i nodi penblwydd yr M1 yn 50 oed – traffordd ac iddi orffennol eiconig,” meddai Chris Mole.
“Mae’r M1 yn brif wythïen allweddol, sy’n symud nwyddau a phobl o gwmpas Prydain ac yn cefnogi buddsoddiadau.”
Meddai Paul Watters, pennaeth polisi ffyrdd a thrafnidiaeth cymdeithas yr AA:
“Ni ellir gorbwysleisio arwyddocâd yr M1 – dyma asgwrn cefn Prydain. Fe wnaeth hi chwyldroi teithio fel traffordd bellter hir gyntaf Prydain – cyn iddi agor, fe fyddech chi’n lwc i gyrraedd ffin yr Alban o fewn wyth awr o Lundain.”
Cafodd yr M1 ei chynllunio’n wreiddiol i gymryd tua 13,000 i 20,000 o gerbydau’r dydd, ond mae bellach yn cludo rhwng 140,000 a 160,000 y dydd.
Llun: Paradwys i yrwyr – golygfa o’r M1 ger Luton a dynnwyd 2.11.59, pryd yr oedd llai na phum miliwn o geir wedi eu trwyddedu ym Mhrydain o gymharu â 28 miliwn heddiw (PA Wire)