Mae aelod arall o banel ymgynghorol cyffuriau’r Llywodraeth wedi ymddiswyddo mewn protest oherwydd y ffordd y cafodd cadeirydd y pwyllgor, yr Athro David Nutt, ei drin.

Roedd y Dr Les King eisoes wedi anfon neges e-bost at yr Ysgrifennydd Cartref Alan Johnson ddoe, gan ei gyhuddo amddifadu’r Athro Nutt o’i hawl i ryddid barn wrth alw am iddo ymddiswyddo.

Bellach daeth i’r amlwg fod aelod arall, Marion Walker, cyfarwyddwr clinigol gwasanaeth camddefnyddio sylweddau i’r Gwasanaeth Iechyd yn Berkshire, hefyd wedi ymddiswyddo. Roedd hi’n aelod o banel ymgynghori’r Llywodraeth ar ran Cymdeithas Frenhinol y Fferyllwyr.

Wrth ddiswyddo’r Athro Nutt, roedd yr Ysgrifennydd Cartref wedi dweud ei fod wedi “colli hyder” yn ei allu i roi cyngor diduedd ar ôl iddo feirniadu’r llywodraeth.
 
Roedd David Nutt wedi beirinadu’r llywodraeth am uwchraddio’r cyffur cannabis yn groes i’w gyngor arbenigol ef a’i gyd-banelwyr, a rhybuddiodd ddoe y byddai rhai o’i gyd-aelodau’n ymddiswyddo mewn protest.

“Os bydd digon o aelodau’n ymddiswyddo, fydd y pwyllgor ddim yn gallu gweithredu mwyach,” meddai Dr King wrth ddatgan ei gefnogaeth iddo’n gynharach heddiw.

Gwyddonydd blaenllaw

Roedd y gwyddonydd fforensig blaenllaw Les King wedi bod â chysylltiad agos â’r panel ymgynghori ar gyffuriau ers 15 mlynedd.

Dywedodd fod agwedd y Llywodraeth at y panel wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf a bod gan ysgrifenyddion cartref bellach “agenda gwleidyddol wedi ei ddiffinio’n barod” pan oedden nhw’n gofyn am gyngor arbenigol.

“Gofyn ichi gadarnhau safbwynt sydd wedi ei benderfynu eisoes y maen nhw,” meddai.

Dywedodd Dr King fod angen i’r panel ddod yn “rhydd o ymyrraeth y Llywodraeth” yn yr un modd ag y mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Clinigol (Nice), y sefydliad sy’n cynghori ar feddyginiaethau, yn ei wneud.

“Wela i ddim pam na ellir gwneud yr un peth gyda chyffuriau – thynnu gwleidyddiaeth allan ohonyn nhw’n llwyr.

“Mae’n fater gwyddonol, sy’n ymwneud â niwed.”

Fe wnaeth Dr King e-bostio ei ymddiswyddiad at y Swyddfa Gartref ddoe.